Amdanon – AberSLC

Ynglŷn â CABoMA

Clwb Achub Bywyd o’r Môr Aberystwyth sefydlwyd ym 1963

Ein clwb

Mae Clwb Achub Bywyd o’r Môr Aberystwyth wedi bod yn addysgu aelodau’r gymuned leol ynglŷn â diogelwch ar y dŵr ers 1963. Rydyn ni’n grwp o wirfoddolwyr brwd o’r gymuned leol sydd yn angerddol am fwynhau amgylchfyd y traeth sydd ar gael yn Aberystwth a’r ardal gyfagos; rydyn ni am gynorthwyo pobl sy’n defnyddio’r môr i fod yn ddiogel. Drwy ein gwasanaeth gwirfoddol mae llawer o bobl ifanc lleol wedi cymwyso fel achubwyr bywyd a mynd ymlaen i weithio gyda’r RNLI.

Rydyn ni’n cynnal sesiynau hyfforddi drwy gydol y flwyddyn, ar Draeth y Gogledd yn ystod misoedd yr Haf ac yn y pwll yn ystod y Gaeaf; yn ogystal rydyn ni’n cymryd rhan mewn cystadlaethau drwy’r flwyddyn.

Y Pwyllgor

waiting for translation

Aelodau cyfredol y pwyllgor a’u cyfrifoldebau:

Cadeirydd – Rob Halford

Is-gadeirydd – Andy Davies

Ysgrifenydd – Heather Crump

Trysorydd – Peter Williams

Aelodaeth – Eve Shewry-Evans

Diogelu – Andy Davies & Jo Hollowood

Codi Nawdd – Jeremy Turner

Prif Hyfforddwr – Chris Ashman

Capten – Catrin Hollowood Dafis

Cynrychiolwyr Iau – Sophia Hollowood Dafis & Misha Fox-Madderson

Cefnogwch ni

Mae Clwb Achub Bywyd o’r Môr Aberystwyth yn daer dros addysgu ein cymunedau ynglŷn â diogelwch y môr.

Rydyn ni’n croesawu rhoddion neu gyfraniadau sy’n ein cynorthwyo i brynu offer i’r clwb a chynnig hyfforddiant ar gyfer y genhedlaeth nesaf o achubwyr bywyd.

Os hoffech fod yn un o’n noddwyr cysylltwch, os gwewlch yn dda, drwy ymholiadau@aberystwythslsc.org

Diogelu

Mae gan y clwb ddau swyddog lles a diogelu.

Os ydych chi’n aelod ifanc sydd am drafod problemau gyda rhywun y tu allan i’r clwb, cymdeithas neu deulu mae cymorth ar gael 24/7 gan Childline ar 0800 1111.

Am fwy o wybodaeth am ein polisiau diogelu ewch i: Surf Life Saving Association WALES