ASLSC Courses

Saving lives, first aid, basic life support
← Back to Courses

Cymwyster Cenedlaethol Galwedigaethol Achubwr Bywyd ar y Traeth

Mae Cymwyster Cenedlaethol Galwedigaethol Achubwr Bywyd ar y Traeth (CCGABT) yn cael ei gydnabod yn genedlaethol a bydd yn darparu cyflwyniad i holl elfennau achub bywyd ar y traeth, adfywio cardio-anadlol (CPR), cymorth cyntaf, sgiliau yn y pwll ac mewn dŵr agored. Mae’r cwrs yn gorfforol anodd ac fe fydd yn cynnwys nofio o fewn amser penodol a chodi. Mae’r CCGABT yn cynnwys amrywiaeth o unedau gwaith ac mae’n rhaid llwyddo ym mhob un ohonynt er mwyn ennill y cymhwyster.

 

Unedau’r Cwrs

Modiwl 1. Achub Bywyd ar y Traeth – gwybodaeth a dealltwriaeth.

 

Modiwl 2. Technegau Sylfaenol wrth Gynnal Bywyd.

 

Modiwl 3. Yn y pwll – Profion Ffitrwydd a Rhyddhau.

 

Modiwl 4. Ar y traeth – Sgiliau a gwybodaeth achubwyr bywyd.

Gofynion ffitrwydd ar gyfer yr arholiad

Nofio 400m mewn pwll 25m (16 hyd) mewn 8  munud neu lai

 

Hyd y Cymhwyster

2 flynedd

 

Oedran ymgeiswyr 

16 oed o leiaf 

 

Lleiafswm Oriau Dysgu dan Arweiniad

40 awr ac un diwrnod ychwanegol ar gyfer asesu

 

Ble

Aberystwyth

 

Ffi asesu

£25 a ffioedd y cwrs