ASLSC Courses

Saving lives, first aid, basic life support
← Back to Courses

Cymhwyster Goruchwylio’r Traeth

Mae’r Cymhwyster Goruchwylio’r Traeth yn eich galluogi i weithredu mewn rôl cynorthwyol ar y lan; gellir ei ddefnyddio fel y cam cyntaf tuag at fod yn hyfforddwr ar y lan. Mae’r cymhwyster hwn yn rhoi cyflwyniad i bob elfen o theori achubwr bywyd, adfywio cardio-anadlol (CPR) a chymorth cyntaf at yr un lefel ag a ddisgwylir gan achubwr bywyd traeth ond heb unrhyw hyfforddiant na gofynion ar gyfer gweithredu ar y dŵr.

 

Unedau’r Cwrs

Modiwl 1. Achub bywyd ar y traeth – gwybodaeth a dealltwriaeth.

 

Modiwl 2. Cynhaliaeth bywyd sylfaenol  a chymorth cyntaf.

 

Gofynion ffitrwydd
Nofio 300m mewn pwll 25 medr (12 hyd) mewn 7.5 munud neu lai.

 

Oedran  ymgeiswyr 

16 oed o leiaf 

 

Lleiafswm Oriau Dysgu dan Arweiniad

40 awr ac un diwrnod ychwanegol ar gyfer asesu

 

Hyd y cymhwyster

3 blynedd

 

Ble

Aberystwyth

 

Ffi asesu

£10